Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 13 Mai 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.17 - 12.20 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Nicola Evans, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dr Rosanne Palmer, Cynghrair Henoed Cymru John Moore, My Home Life Cymru Loraine Brannan, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’ Pamela Cook, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’ Kelvyn Morris, Grŵp Ymgyrchu ‘Cyfiawnder i Jasmine’ Robin Moulster, Rheolwr CGCP Cymru, Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain Cymru
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Helen Finlayson (Ail Glerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Rhys Morgan (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Lynne Neagle.
2 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 9
2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.
2.2 Cytunodd y Comisiynydd Pobl Hŷn i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
· copi o'i llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi ei barn ar y Bil; ac
· astudiaethau achos o'r effaith y gallai'r Bil ei chael ar bobl hŷn yng Nghymru.
3 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 10
3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau.
3.2 Cytunodd Dr Rosanne Palmer i ddarparu nodyn ynghylch:
· amheuon un o aelodau Cynghrair Henoed Cymru ynghylch ymestyn cofrestru i'r gweithlu gofal cymdeithasol cyfan; ac
· Safbwynt Cynghrair Henoed Cymru ar sicrhau effeithiolrwydd ariannol yn ymwneud â defnyddio arolygwyr lleyg.
3.3 Cytunodd y tystion i ysgrifennu at y Pwyllgor i rannu eu barn ynghylch a ddylai'r Bil nodi y dylai'r rhai sy'n ymwneud â gwasanaethau comisiynu a rhoi contractau i gwmnïau preifat gael eu hatal rhag gweithio i gwmnïau o'r fath o fewn cyfnod penodedig.
4 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 11
4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau'r Aelodau.
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn sut y byddai'r Bil yn rhoi ystyriaeth i adolygiad annibynnol Dr Margaret Flynn o Ymgyrch Jasmine.
5 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth 12
5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau’r Aelodau.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Cofnodion cyfarfod 23 Ebrill 2015
6.1a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ebrill.
6.2 Cofnodion cyfarfod 29 Ebrill 2015
6.2a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill.
6.3 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): gwybodaeth ychwanegol gan Gynghreiriau Ailalluogi Cymru, Cynhalwyr Cymru a Gofal Cymdeithasol a Lles
6.3a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Gynghreiriau Ailalluogi Cymru, Cynhalwyr Cymru a Gofal Cymdeithasol a Lles. Nododd fod y wybodaeth hefyd yn cael ei chymeradwyo gan Gynghrair Iechyd Meddwl Cymru.
6.4 P-04-603 Helpu Babanod 22 Wythnos Oed i Oroesi: gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau
6.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth:
6.5 Ymchwiliad i berfformiad y Gwasanaethau Ambiwlans yng Nghymru: gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd
6.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd.
6.6 Craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Iechyd: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
6.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 yn y cyfarfod ar 21 Mai 2015
7. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth
8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ac ystyriodd y dystiolaeth a dderbyniwyd.
9 Rheoliadau mewn perthynas â chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: trafod y dull o weithredu
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar reoliadau mewn perthynas â chymhwysedd o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chytunodd arno.